Busnesau bach yn cefnogi ei gilydd a blas ein coffi yw dau o’r nifer o resymau pam bo Tŷ Winsh, Ffordd Balaclafa yng Nghaernarfon yn gweini Coffi Dre yn unig. Y mis yma, gaetho ni sgwrs efo Marek, perchennog y Tŷ Caffi arobryn.
Yn wreiddiol o Slofacia, mae Marek bellach wedi ymgartrefu yma yng Nghymru. Bu’n gweithio am flynydoedd fel Rheolwr Bwytai i Dunelm ym Mangor ac ar draws y Deyrnas Unedig. Mae’n gyn bencampwr Barista, ac yn 2013, tra’n cystadlu am yr eil dro’n unig, daeth yn gyntaf allan o 760 o bobol! Yn ogystal â chael y clod o ennill, cafodd wyliau i Mauritius am ddim hefyd! Y flwyddyn gnalynol, cafodd ei wahodd i fod yn un o feirniaid y gamp. Os gewch chi goffi yn Tŷ Winsh, mae’n debygol iawn y bydd yna waith hyfryd o gelf latte ar eich diod. Mae celf latte yn rhywbeth arall mae Marek yn rhagori ynddo ac yn ei wneud ers tua 16 o flynyddoedd bellach.
Ychydig o flynyddoedd yn ol, mi welodd gyfle i wireddu breuddwyd oes o fod yn berchennog ar Dŷ Coffi ei hun pan ddaeth Tŷ Winsh ar gael. Wrth symud i Gaernarfon, roedd ambell berson wedi ei rybuddio na fyddai’n cael ei dderbyn yno gan nad oedd yn siarad Cymraeg, ond dywed Marek ‘mae pobol Caernarfon wedi bod yn groesawgar iawn, ac mi rydwi’n dysgu ychydig bach yn fwy o Gymraeg bob dydd. Dwi wrth fy modd yma’.
Mae Marek yn ei eiriau ei hun, yn ‘picky’ iawn efo’i goffi, ond mae’r cyfuniad o flas ac ansawdd Coffi Dre, ein gwasanaeth cwsmer a’r ffaith ein bod yn fusnes bach lleol yn golygu ei fod yn hapus iawn efo’r dewis ddaru o wneud pan agorodd o’r Tŷ Coffi, i weini Coffi Dre. Dywed ‘Mae hogia Coffi Dre mor gyflym yn dod a’n archeb ni yma, fel arfer y diwrnod wedyn neu cwpwl o ddiwrnodau wedyn sydd yn wych. Dwi wrth fy mod yn gweithio efo’r hogia. Pum seren iddyn nhw!’
Os gewch chi gacen yn Tŷ Winsh efallai (neu efallai ddim!) y gnewch chi sylwi nad oes gymaint o siwgr yn ei gacennau. Dywed Marek fod hyn gan fod ef ei hun yn dioddef o glefyd y siwgr teip 2, ac felly mae’n gwneud ymdrech i weini pethau ychydig bach yn fwy ‘iach’. Yn ogystal â chacennau (a choffi wrth gwrs!) mae Tŷ Winsh yn gweini paninis, omlet, toasties, Welsh rarebits, cawl ac ambell
i beth arbennig. Popeth wedi’i goginio’n ffres, gan gynnwys y bara’n ddyddiol. Os oes ‘na gyfle, mae’n ceisio plethu dylanwadau Slofacaidd mewn i fwyd Prydeinig (mi roedd y crempogau siocled Slofacaidd gefais i yno yn anhygoel!) gan nad yw eisiau bod ‘fel pob siop goffi arall’.
Mae Ty Winsh wedi ennill gwobr ‘Caffi Gorau Caernarfon’ am yr ail flwydyn yn olynol eleni, wedi’i wobrwyo gan Restaurant Guru, sy’n cyfuno holl adolygiadau TripAdvisor, Facebook a Google. Llongyfarchiadau mawr iawn i Marek!