Lansio Coffi Dre a Twthill

Yn ogystal ag adeiladu ein trelar coffi roedden ni (Coffi Dre) hefyd wrthi’n brysur yn datblygu a chreu ein coffi cyntaf un – sydd wedi cael ei alw’n Coffi Twthill.

Coffi Dre Trailer MockupEin cynllun ar y cychwyn oedd gweini coffi artisan pobl eraill o’r trelar ond yna’n sydyn cawsom syniad, “beth am i ni ddatblygu ein blend ein hunain, a’i weini?” Byddai wedyn yn goffi unigryw wedi’i wneud gennym ni, ac ar ben hynny buasai’n bosibl gwerthu’r ffa mewn bagiau i’n cwsmeriaid yn ogystal â’n paneidiau parod. Fe wnaethon ni i gyd benderfynu mai hwn oedd y llwybr yr oedden ni am ei ddilyn, ond y rhwystr cyntaf oedd rhostio!

Doedd gan yr un ohonom ni unrhyw brofiad o rostio coffi a hyd yn oed pe byddai gan un ohonom ni brofiad, doedd gennym ni ddim cyfalaf i fuddsoddi mewn rhostiwr, yr offer angenrheidiol na’r lle oedd ei angen i rostio’r ffa! Ar ôl i bawb feddwl yn galed penderfynwyd mai’r unig ffordd y gallen ni wneud iddo weithio oedd siarad â rhostwyr eraill a gweld a fyddai unrhyw un ohonyn nhw’n barod i weithio efo ni i greu ein coffi. Ar ôl ychydig wythnosau o drafod syniadau gyda gwahanol rostwyr dewiswyd cwmni rhostio bach annibynnol yng Nghaerdydd. Roedden ni’n awyddus iawn i gadw’r broses rostio yng Nghymru, felly roedd yn cyd-fynd yn dda â’r egwyddor honno ac roedd y bobl oedd yn rhedeg y rhostwyr yn wych i gyfathrebu â nhw. Yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, fe aethon ni ati i flasu sawl blend gwahanol cyn dewis ein ffefryn. Dyna’r coffi wedi’i ddewis!

Unlabelled Coffi Dre Bag

Y rhwystr nesaf oedd y pecynnu! Roeddwn i’n gwybod bod yn rhaid cael brand cryf ac roedd hynny i mi yn golygu y dylai fod yn ddu. Bues i’n chwilio am hir ar y rhyngrwyd am goffi mewn bagiau coffi du ac archebais sawl sampl o bob cwr o’r byd, ond doedd dim un yn gweddu i’r syniad oedd gen i. Yna daethom ar draws cwmni gwych o’r Iseldiroedd oedd nid yn unig yn cynnig bagiau coffi du, ond bagiau Coffi Du Di-sglein. Roedden nhw’n edrych yn wych ac yn well fyth, mae’r holl fagiau’n garbon niwtral! Doedden nhw mo’r rhataf o bell ffordd, ond y rhain yn fy marn i oedd yn addas i ni.

Y cam nesaf oedd dewis enw. Pa enw ddylen ei roi ar ein coffi? I mi, roedd hwn yn benderfyniad eithaf hawdd. Holl ethos Coffi Dre yw dathlu Caernarfon a’i phobl a pha ffordd well o wneud hynny na thrwy enwi ein coffi ar ôl yr ardaloedd o gwmpas Caernarfon? Os ydych chi’n fy adnabod i, rydych chi’n gwybod fy mod i’n hoff o lecynnau gyda golygfa braf ac os ydych chi’n gyfarwydd â thref Caernarfon rydych chi’n gwybod bod yna un o’r rheini reit ar ben bryn bach yng Nghaernarfon… Twthill. Yn fy marn i, o Twthill gallwch weld un o olygfeydd gorau Caernarfon, gallwch weld y dref, y castell a’r olygfa tuag at y Fenai a draw am Ynys Môn!

Twthill Creu Co DesignRoedd y gwaith celf yn rhywbeth roeddwn i wir eisiau ar y pecyn felly ar ôl ei drafod gyda Tom a Haydn es i chwilio am artist/darlunydd a fyddai’n gallu darlunio’r olygfa anhygoel o Gaernarfon o ben Twthill. Roeddwn i wedi dod ar draws Gwenno o Creu_Co ar Instagram ychydig fisoedd cyn hynny. Fel y soniais, dwi wrth fy modd efo Pileri Triongli, ond yn fwy na hynny dwi wir yn mwynhau cerdded mynyddoedd Cymru a’r darlun cyntaf a welais i gan Gwenno oedd triawd o ddarluniau o dri chopa yng Nghymru. Yr Wyddfa, Cadair Idris a Phen y Fan! Roeddwn i’n hoff iawn o’i gwaith ac fe wnes i benderfynu cysylltu â hi i weld a fyddai hi’n fodlon creu’r gwaith celf ar gyfer ein coffi. Cytunodd ar unwaith ac o fewn ychydig wythnosau daeth yn ôl gyda’r darlun hardd a welwch yn awr ar ein fersiwn casglwr (‘Collector’s Edition’) o Twthill.

Roedd y cyfan yn barod i fynd! Y cyfan oedd angen ei wneud yn awr oedd rhoi’r darnau i gyd at ei gilydd a lansio’r cynnyrch. Yn ystod y cyfnod hwn roeddwn i hefyd wedi bod yn brysur yn adeiladu gwefan Coffi Dre. Daeth popeth at ei gilydd lai nag wythnos cyn dyddiad swyddogol ein lansiad. Fe wnaethon ni groesi ein bysedd ac ar 14 Medi 2021 lansiwyd ein gwefan a gwnaethon ni bostio ein negeseuon cyntaf ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol!

Mwy o Flogiau | More Blogs