Cludiant am ddim ar bob archeb dros £60! | Free Delivery on all orders over £60!
Os ydych chi’n rheoli neu’n berchen ar Gaffi, Gwesty, Deli, Safle Gwersylla/Gampio, Gosod Gwyliau neu Drelar Arlwyo yna mae gennym ni’r coffi i chi. Mae gennym ni ystod eang o feintiau bagiau i weddu i’ch anghenion o 60g i 4kg.
Rydyn ni’n gwneud mwy na choffi yn unig, gallwn ni ddarparu suropau, siocled crud, cwpanau tecawê, siwgr i’ch busnes, fe allwch chi hyd yn oed roi te! Cysylltwch i ddarganfod mwy.
Gall Coffi Dre gyflenwi rhai o’r offer coffi masnachol proffesiynol gorau ar y farchnad i’ch busnes o beiriannau espresso traddodiadol, peiriannau hidlo, llifanu, ffa i gwpan a llawer mwy.
Cysylltwch i ddarganfod mwy!
P’un a ydych am gael eich hyfforddi neu hyfforddi eich staff gallwn helpu! Mae Coffi Dre yn cynnig hyfforddiant Barista Sylfaenol AM DDIM pan fyddwch chi’n penderfynu defnyddio ein coffi! Mae hyfforddiant o safon yn rhan annatod o goffi da, fe allech chi gael y coffi gorau yn y byd ond heb hyfforddiant cywir fyddwch chi byth yn cael y gorau o’r coffi!
Mae Coffi Dre hefyd yn cynnig Gwasanaeth Peiriant Espresso a Phrofion PSSR. Cliciwch ar yr isod i ddarganfod mwy!
Sicrhewch y newyddion diweddaraf, datganiadau cynnyrch a chynigion.
Cwmni coffi wedi ei leoli yn nhref Caernarfon ‘di Coffi Dre. Ein nod yw dathlu Diwylliant, Iaith a Phobl Cymru i gyd trwy goffi anhygoel o bob rhan o’r byd wedi’i rostio yma yng Nghymru.
Rydym eisiau ddangos i bobl Cymru beth yw ystyr coffi.