Sut ddechreuodd Coffi Dre. Felly, tua mis Ebrill 2021, ymwelais â chaffi newydd fy nhad ym Mhenrhyndeudraeth oedd ar fin agor ei ddrysau am y tro cyntaf y diwrnod wedyn. Gofynnodd a oeddwn i eisiau coffi a dywedodd wrthyf am wneud un i mi fy hun, “Ti’n gw’bod syt i iwsho’r mashin ‘na dwyt?!”. Doeddwn i ddim wedi defnyddio peiriant espresso ers amser maith. Yn agos at 10 mlynedd, pan roeddwn i’n arfer gweithio mewn siop hufen iâ adnabyddus ym Mhorthmadog fel Barista. Wrth wneud Cappuccino i mi fy hun, sylweddolais faint o hwyl roeddwn i’n arfer ei gael yn gweithio yno a dechreuais feddwl tybed sut y gallwn fynd yn ôl i wneud y swydd honno ond heb iddi effeithio ar fy sefyllfa ariannol. Mae cael eich cyflogi gan gorfforaeth am 8 mlynedd yn eich gwneud chi’n gyfforddus ar yr olwyn ariannol, ac mae’n teimlo’n ddigon anodd dod oddi arni heb syrthio ar eich wyneb.
Aeth ychydig ddyddiau heibio a’r cyfan y gallwn feddwl amdano oedd faint o hwyl oedd gwneud y cappuccino hwnnw. Mae’n swnio mor sylfaenol ond, wir i chi, dyna’r cyfan yr oeddwn yn meddwl amdano. Dyna pryd y cefais y syniad! Beth am agor fy siop goffi fy hun yng Nghaernarfon? Roeddwn yn fwrlwm o gyffro. Dros yr wythnos nesaf, meddyliais am yr enw Coffi Dre”, ac es ati i greu logo a chofrestru ar Pinterest. Bydd y bobl sy’n fy nabod yn gwybod bod hynny’n beth anarferol i mi. Does gen i ddim diferyn o allu creadigol, ond roedd angen i mi roi bywyd i’r syniad oedd yn fy mhen. Roeddwn i’n gweld y caffi’n glir yn fy mhen. Es ati i roi syniadau at ei gilydd ar bapur yn dangos sut y byddai’r caffi’n edrych, hyd yn oed sut rai fyddai’r toiledau!
Daeth y peth yn realiti go iawn i mi pan ddechreuais chwilio am adeiladau posibl yn ardal Caernarfon. Roedd y rhent yn ddrud a doeddwn i ddim yn teimlo bod unrhyw adeilad oedd ar gael yn gwneud cyfiawnder â’r syniad oedd gen i yn fy mhen. Yna, penderfynais ei gwneud yn fenter gludadwy. “Dyna cŵl fyddai adnewyddu hen Fan Citroen HY” – daeth y syniad hwnnw i ben yn gyflym iawn pan welais eu bod nhw’n costio’r un faint â blaendal ar dŷ bychan! “Beth am focs ceffyl?” meddyliais wrthyf fy hun. I ffwrdd â fi i wlad hudolus eBay lle roedden nhw ym mhobman! Bingo. Dyna ni, byddai Coffi Dre yn dreilar coffi.
Ar yr adeg hon y soniais amdano gyda rhai o’m ffrindiau i weld a oedd unrhyw sylwedd yn y syniad. Roedd Haydn, ffrind da i mi a oedd wedi bod yn rhedeg ei fusnesau ei hun ers ychydig flynyddoedd ac a oedd hefyd yn saer medrus, yn meddwl ei fod yn syniad gwych a gofynnodd a fuaswn i’n awyddus i ddechrau partneriaeth hefo fo er mwyn troi’r Syniad yn fusnes go iawn. Gwych, meddyliais! Rhywun a oedd wrth ei fodd gyda choffi, oedd â phrofiad busnes a rhywun i rannu fy syniadau hefo fo. Yn fuan wedyn, fe atebodd un arall o’n ffrindiau da, Tom, i ddweud ei fod yntau’n meddwl ei fod yn syniad da. Fel radiolegydd yn yr ysbyty leol, doedd gan Tom ddim profiad busnes, ond roedd yn fodlon cyfrannu rhywfaint o arian a gwneud gwaith caib a rhaw. Fel mae’n digwydd, roedd ganddo lawer mwy i’w gynnig nag yr oedd yr un ohonom wedi’i feddwl o ran meddwl yn greadigol am syniadau arloesol, ac ar ben hynny, roedd o’n caru coffi’n fwy na’r un ohonom!
Daethom at ein gilydd i drafod y syniad, ac aeth pob un ohonom ati i gadw golwg am drelar ceffylau posibl y byddem yn gallu ei addasu. Fe ddaethon ni o hyd i’r un perffaith yn St Helens (neu dyna oedden ni’n ei feddwl). Ar ôl heidio i fan Haydn, dechreuom ar ein taith dwy awr o hyd i St Helens. Ar ôl cyrraedd, fe wnaethom ni gwrdd â phâr a oedd yn “gwneud bywoliaeth drwy atgyweirio trelars ceffylau”. Yr oll y gallaf ei ddweud yw bod eu sgiliau peintio ar yr un lefel â phlentyn 5 oed, ac nid oedd ganddynt lawer o sgiliau “adfer”. Roedd y trelar fel bwced o rwd ar olwynion, roedd tyllau yn y llawr, roedd rhwd ar bob panel, ac roedd hyd yn oed rhywfaint o dail y tu mewn iddi. Afraid dweud, fe wnaethom ni ddod oddi yno heb drelar, gan deimlo’n ddigon digalon gan ein bod ni wirioneddol yn meddwl mai “dyma fyddai’r un”!
Aeth ychydig o wythnosau heibio, ac fe ddois i ar draws trelar posibl yn Y Trallwng. Trelar geffylau fwy newydd oedd hon, trelar Ifor Williams HB505 o 2002, nid yr hyn yr oeddem ni’n chwilio amdano’n wreiddiol, ond roedd y pris yn addas, roedd ei hanes yn dda, ac roeddem ni’n meddwl y byddai’n sylfaen dda ar gyfer ein trelar goffi. Felly i ffwrdd â ni unwaith eto yn fan ffyddlon Haydn. Fe wnaethom ni gwrdd â’r gwerthwyr ym maes parcio Tesco reit yng nghanol Y Trallwng. Wrth i ni droi i mewn i’r maes parcio, dyna hi… yn cael ei thynnu gan gerbyd 4×4 wedi’i orchuddio â mwd. Hon oedd yr un. Daeth cwpwl allan i’n cyfarch, yn gwisgo wellingtons Hunter a chotiau Schoffel. Cawsom olwg sydyn o amgylch y trelar, ac roeddem ni’n meddwl ei fod yn fargen am y pris, felly fe wnaethom ni dalu’r pris llawn a’i throi am adref gan dynnu’r trelar. Roeddem ni wrth ein boddau. Roedd Coffi Dre yn wir, roedd popeth yn dechrau symud ac roedd hyn yn digwydd go iawn!