Pam ‘im y ddau?! Un am y bora (Twthill) ac un ar gyfer ymlacio gyda’r nos (Segontiwm Decaf)! Y partneriaeth perffaith i’r carwr coffi!
Segontiwm ‘di’n coffi di-gaffein cynta’, coffi Mecsicanaidd ymeising sydd wedi’i brosesu gyda dŵr mynydd. Mae’r broses dŵr mynydd yn dadgaffeineiddio’r coffi ac ar yr un pryd yn cadw’r holl flas coffi blasus yn y ffeuen heb ddefnyddio unrhyw gemegau! Mae’n broses dadgaffeineiddio hefyd yn unigryw i Fecsico. Mae’r ffa wedyn yn cael ei rostio i rhost canolig/tywyll i ddod â gwir flas y ffa allan. Mae Segontiwm yn gweithio’n dda iawn fel espresso yn ogystal ag mewn caffetiere. Crëwyd y Darlun gan yr hynod dalentog Sïan Angharad, dylunydd, darlunydd ac animeiddiwr.
Mae’n blend cyntaf Twthill yn espresso arbennig, sydd wedi’i grefftio’n arbenigol yn mynegi popeth ‘da ni’n ei wybod am sut ddylai coffi flasu a wneud i chi deimlo. Espresso melys sy’n gytbwys hefo neu heb lefrith. Yr espresso yma fydd y peth gorau am eich trefn foreuol. Cafodd y darlun ei gratio gan yr anhygoel Gwenno Llwyd Jones yn CreuCo